P-05-929 Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg, Gohebiaeth Deisebydd at y Pwyllgor, 16.03.20

Rwyf wedi darllen ymateb Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Tra’n falch o weld bod y Gweinidog o blaid annog pobl i ddefnyddio “Cymry” a “Cymry” mewn deunydd Saesneg rwy’n nodi nad ydi’r Gweinidog am i hyn fod yn bolisi cyffredinol ym mhob sefyllfa yn ddiau. Tybed er hynny fyddai modd bod fymryn yn fwy cadarn ac chael polisi cyffredinol bod y termau “Cymru” a “Cymry” yn cael eu defnyddio gan amlaf - ac felly bod y defnydd yn dod yn fwy-fwy cyffredin ac yn y pen draw (mewn rhai blynyddoedd o bosib) yn dod yn naturiol a di-eithriad.

Rwy’n derbyn na fyddai modd newid popeth dros nôs a dyna pam bod y ddeiseb wedi ei geirio fel annog yn hytrach na gorfodaeth - ond mae angen lefel uchel o ewyllys da ac ymarfer da gan Lywodraeth Cymru yn y lle cyntaf er mwyn normaleiddio’r defnydd.

 

Yn gywir

 

Mair Edwards